Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

30 Ionawr 2017

SL(5)049 – Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015 (“Gorchymyn 2015”). Mae Gorchymyn 2015 yn darparu ar gyfer cynllun rhyddhad ardrethi a chynllun rhyddhad ardrethi dros dro nad yw’n gymwys ond i gategorïau penodol o hereditament. Pan wnaed Gorchymyn 2015 yn wreiddiol, darparodd fod y cynllun rhyddhad ardrethi dros dro yn rhedeg o 1 Ebrill 2015 hyd 31 Mawrth 2016.

Estynodd Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2016 y cynllun rhyddhad ardrethi dros dro hwnnw i 31 Mawrth 2017.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2015 ymhellach drwy estyn y cyfnod o amser y mae’r cynllun rhyddhad ardrethi dros dro yn gymwys hyd 31 Mawrth 2018.

Deddf Wreiddiol: Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988

Fe’i gwnaed ar:16 Ionawr 2017

Fe'i gosodwyd ar:19 Ionawr 2017

Yn dod i rym ar:10 Chwefror 2017

SL(5)052 – Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (“Rheoliadau 1992”) yn gwneud darpariaeth ynghylch bilio, casglu a gorfodi'r dreth gyngor.

Mae Rheoliadau 2017 yn diwygio Rheoliadau 1992 o ran Cymru i gymryd ystyriaeth o bremiymau'r dreth gyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi a gyflwynir o dan adrannau 12A a 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a fewnosodir i'r Ddeddf honno gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Mae'r Rheoliadau hyn yn galluogi i'r premiymau gael eu bilio a'u gorfodi.

Deddf Wreiddiol: Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992

Fe’u gwnaed ar:23 Ionawr 2017

Fe'u gosodwyd ar:25 Ionawr 2017

Yn dod i rym ar: 15 Chwefror 2017

SL(5)054 – Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 (OS 1993/255) (‘Rheoliadau 1993’) sy’n gwneud darpariaeth am yr hyn sydd i’w gynnwys mewn hysbysiadau galw am dalu’r dreth gyngor a’r wybodaeth i’w chyflenwi yn yr hysbysiadau hynny. Mae’r newidiadau a wneir i Reoliadau 1993 yn adlewyrchu premiymau’r dreth gyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi o 1 Ebrill 2017.

Deddf Wreiddiol: Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992

Fe’u gwnaed ar:23 Ionawr 2017

Fe'u gosodwyd ar:25 Ionawr 2017

Yn dod i rym ar: 15 Chwefror 2017